

Mae Hyfforddiant CGLl yn Ddarparwr Hyfforddiant Cymeradwy ac, fel y cyfryw, yn gallu cyflwyno hyfforddiant wedi'i ariannu o dan raglenni amrywiol y llywodraeth.
Mae Skillbuild yn rhaglen baratoadol ar gyfer dysgwyr di-waith. Mae'n cynnig hyfforddiant mewn sgiliau sylfaenol, blasu swyddi, meithrin hyder ac yn paratoi dysgwyr ar gyfer symud ymlaen at hyfforddiant galwedigaethol a/neu gyflogaeth.
Mae Skillbuild Plus yn cynnig cyfle i ddysgwyr ennill sgiliau y mae galw amdanynt yn y farchnad lafur. Gallai'r rhain gynnwys Cymwysterau Galwedigaethol Cenedlaethol (NVQ) a chyrsiau Hyfforddiant Galwedigaethol penodol fel y cynigir gan y darparwr hyfforddiant.
Mae yna ddwy lefel Prentisiaeth ar gael, yn bennaf ar gyfer pobl mewn gwaith. Mae Hyfforddiant CGLl yn cynnig Prentisiaethau Sylfaen mewn Logisteg, Cludo Teithwyr ar yr Heol a Gweinyddiaeth Fusnes. Mae yna Brentisiaethau Uwch ar gael mewn Logisteg a Gweinyddiaeth hefyd.
Mae yna Leoliadau Addysg a Hyfforddiant Llawn Amser ar gael i ddysgwyr 18 - 24 oed sydd wedi bod yn ddi-waith ers peth amser. Mae'r cyfleoedd yn cynnwys Cerbyd Fforch Godi, LGV, PCV, Gweithredu Offer a Gweinyddiaeth Fusnes.
Mae React yn becyn cymorth a gynlluniwyd i gynnig cyfleoedd i weithwyr sydd newydd golli eu swyddi er mwyn iddynt ennill sgiliau newydd a mynd yn ôl i weithio cyn gynted â phosib.
Am fanylion am hyd y cyrsiau, gwybodaeth ar gostau a'r nawdd syrr ar gael, mae croeso i chi gysylltu â ni ar 01554 77412101554 774121 neu anfonwch E-bost at info@llanelli-rural.gov.uk
Website by NetBop Technologies