Gweithrediadau Logisteg
Trosolwg
Mae’r brentisiaeth hon wedi’i chynllunio ar gyfer pobol sy’n ansicr pa ran o’r sector logisteg sy’n addas iddynt, gan ganiatáu iddynt felly gael y sail sylfaenol cyn arbenigo mewn un rôl arbennig.
Fel prentis gall eich dyletswyddau gynnwys, trawsgludiaeth, rheoli stoc, gwaith warws, monitro llif nwyddau a deunyddiau, gan sicrhau fod ansawdd, cost ac ffeithiolrwydd y gadwyn cyflenwi yn cwrdd â safonau, rheoli derbyn, storio a dosbarthu nwyddau, gan ddatblygu perthynas gyda chwsmeriaid a chyflenwyr.
Cymwysterau
Prentisiaeth Sylfaen
- Lefel 2 Tystysgrif Gweithrediadau Logisteg
- Lefel 2 Dyfarniad Hawliau a Chyfrifoldebau Gweithiwr
- Sgiliau Cyfathrebu Hanfodol (Lefel 1)
- Sgiliau Cymhwyso Rhif Hanfodol (Lefel 1)
- Sgiliau Llythrennedd Digidol Hanfodol (Lefel 1)
Prentisiaeth
- Lefel 3 Diploma Gweithrediadau Logisteg
- Lefel 2 Dyfarniad Hawliau a Chyfrifoldebau Gweithiwr
- Sgiliau Cyfathrebu Hanfodol (Lefel 2)
- Sgiliau Cymhwyso Rhif Hanfodol (Lefel 2)
- Sgiliau Llythrennedd Digidol Hanfodol (Lefel 2)
Os ydych chi eisoes wedi ennill Sgiliau Hanfodol neu wedi llwyddo i gael TGAU A-C mewn Mathemateg, Saesneg neu TG, fydd dim rhaid i chi ymgymryd â nhw eto fel rhan o’r cymhwyster (Bydd angen darparu Tystysgrifau fel prawf).
Hyd yr hyfforddiant
- Prentisiaeth Sylfaen – lleiafswm o 52 wythnos
- Prentisiaeth- lleiafswm o 64 wythnos
Rhaid i chi gael eich cyflogi am leiafswm o 16 awr i ymgymryd â phrentisiaeth. Rydych chi’n gwneud cytundeb i gwblhau eich prentisiaeth ac yn gyfnewid am hynny, fe gewch chi gefnogaeth reolaidd oddi wrth eich Aseswr.