Swyddfa Traffig
Trosolwg
Gall dyletswyddau Swyddfa Traffig amrywio o gwmni i gwmni. Gall eu rôl gynnwys delio ag ymholiadau cwsmeriaid Traffig, ffeilio gwybodaeth (electronig a phapur), rhoi allweddi cerbydau a
llwytho manylion, sicrhau bod symud nwyddau ar hyd heolydd, rheilffyrdd, ar fôr neu awyr yn cael eu hamserlenni a’u cyfeirio’n gywir.
Mae angen i gyflogwyr logisteg ddenu mwy o bobol i’r diwydiant ar Lefel 2 i hyfforddi fel clercod Swyddfa Traffig i sicrhau bod y nwyddau yn cael eu dosbarthu a’u cyfeirio i ben eu taith yn gywir. Mae Prentisiaeth Lefel 3 yn adeiladu ar Brentisiaeth Sylfaen Lefel 2 trwy ddarparu cyfleoedd i gynyddu i ddyletswyddau rheolaeth Swyddfa Traffig.
Cymwysterau
Prentisiaeth Sylfaen
- Lefel 2 Tystysgrif Swyddfa Traffig
- Lefel 2 Dyfarniad Hawliau a Chyfrifoldebau Gweithiwr
- Sgiliau Cyfathrebu Hanfodol (Lefel 1)
- Sgiliau Cymhwyso Rhif Hanfodol (Lefel 1)
- Sgiliau Llythrennedd Digidol Hanfodol (Lefel 1)
Prentisiaeth
- Lefel 3 Tystysgrif Swyddfa Traffig
- Lefel 2 Dyfarniad Hawliau a Chyfrifoldebau Gweithiwr
- Sgiliau Cyfathrebu Hanfodol (Lefel 2)
- Sgiliau Cymhwyso Rhif Hanfodol (Lefel 2)
- Sgiliau Llythrennedd Digidol Hanfodol (Lefel 2)
Os ydych chi eisoes wedi ennill Sgiliau Hanfodol neu wedi llwyddo i gael TGAU A-C mewn Mathemateg, Saesneg neu TG, fydd dim rhaid i chi ymgymryd â nhw eto fel rhan o’r cymhwyster (Bydd angen darparu Tystysgrifau fel prawf).
Hyd yr Hyfforddiant
- Prentisiaeth Sylfaen- lleiafswm o 52 wythnos
- Prentisiaeth- lleiafswm o 64 wythnos
Rhaid i chi gael eich cyflogi am leiafswm o 16 awr i ymgymryd â phrentisiaeth. Rydych chi’n gwneud cytundeb i gwblhau eich prentisiaeth ac yn gyfnewid am hynny, fe gewch chi gefnogaeth reolaidd oddi wrth eich Aseswr.